Safon: Uwch Gyfrannol ac Uwch
Bwrdd Arholi: CBAC
Pam astudio Cemeg?
Mae llwyddiant Safon Uwch yn hanfodol bwysig os ydych am barhau ag astudiaeth bellach mewn Cemeg neu faes fel meddygaeth neu fferylliaeth neu un o’r gwyddorau biolegol. Bydd Safon UG/U yn fanteisiol iawn i’r rhai ohonoch sydd â diddordeb mewn unrhyw faes gwyddonol e.e. peirianneg, yr amgylchedd neu ddaeareg. Mae’r amrediad o sgiliau byddwch yn datblygu drwy ddilyn y cwrs yma yn rhai fedrwch drosglwyddo i bob math o swyddi ac mae canran uchel o bobl â chymwysterau mewn Cemeg yn symud ymlaen i weithio ym meysydd bancio, cyfrifyddiaeth, rheolaeth busnes a’r sector technoleg gwybodaeth.
Gofynion Mynediad
Dylech lwyddo i ennill graddau B neu’n uwch mewn Gwyddoniaeth Ychwanegol / Cemeg Driphlyg ar lefel TGAU. Dylech fod wedi sefyll papurau Haen Uwch. Rhown ystyriaeth arbennig i ddisgyblion â graddau C os yw’n meddu ar y sgiliau angenrheidiol i gwblhau’r cwrs.
Beth yw cynnwys y cwrs?
Bwriad y cwrs yw eich annog i:
- ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o gysyniadau cemegol a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn eu defnyddio mewn sefyllfaoedd newydd a newidiol
- ddatblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng theori ac arbrofi
- fod yn ymwybodol o’r ffyrdd y mae datblygiadau mewn technoleg gwybodaeth ac offer yn cael eu defnyddio ym maes Cemeg
- werthfawrogi cyfraniadau Cemeg i’r gymdeithas a ffyrdd cyfrifol o ddefnyddio gwybodaeth a thystiolaeth wyddonol
- ddod â gwybodaeth at ei gilydd am ffyrdd y mae gwahanol feysydd Cemeg yn cysylltu â’i gilydd
- gynnal a datblygu eich mwynhad o Gemeg a’ch diddordeb yn y pwnc
Bydd y gwersi yn cynnwys cyfnodau dysgu a thrafodaeth dosbarth cyfan a gwaith ymarferol ynghyd â chyfnodau tiwtorial unigol, cyflwyniadau gan ddisgyblion a gwaith darllen ac astudio unigol. Cewch eich hannog i ddefnyddio amrediad eang o adnoddau gan gynnwys gwerslyfrau’r ysgol, cylchgronnau a meddalwedd perthnasol yn ogystal â’r cyfoeth o wybodaeth sydd i’w gael ar y rhyngrwyd
Beth yw strwythur y cwrs?
Cwrs modylol yw UG/U2 mewn Cemeg. Byddwch yn sefyll arholiadau ym mis Mehefin ym Mlwyddyn 12 ac ym misoedd Ionawr a Mehefin ym Mlwyddyn 13. Bydd gwaith cwrs ymarferol yn cael ei gyflawni drwy gydol y cyfnod.
| | % Safon UG
| % Safon U2
|
CH 1. Rheoli a Defnyddio Newidiadau Cemegol
| 40% | 20% |
CH 2. Priodweddau, Adeiledd a Bondio
| 40% | 20% |
CH 3. Uned Ymarferol Cemeg – gwaith cwrs mewnol
| 20% | 10% |
Cyfanswm
| 100% | 50%
|
| |
CH 4. Sbectrosgopeg a Chemeg Organig
| 20% |
CH 5. Cemeg Ffisegol ac Anorganig
| 20% |
CH 6. Uned Ymarferol Cemeg – gwaith cwrs mewnol
| 10% |
Cyfanswm
| 100% |
Gyrfaoedd Posib
Meddyg, milfeddyg, nyrs, deintydd, ffisiotherapydd, athro unhryw bwnc, gwyddonydd fforensig, patholegydd, archeolegydd, periannydd, bydwraig, peirianydd, fferyllydd, swyddog Iechyd yr amgylchedd, parameddygaeth, deietegydd, gwyddonydd fforensig ymhlith llawer eraill.