Roedd cyffro mawr ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni oherwydd byddai’r Ŵyl yn wahanol iawn i’r arfer. Roedd yr Adran Gymraeg wedi trefnu gwibdaith i ni o amgylch Cymru. Pwrpas y daith oedd i ni ymgynefino gyda llefydd a fyddai’n arwyddocaol i ni wrth astudio Llenyddiaeth Gymraeg i lefel TGAU.
Roedd hi braidd yn niwlog pan ddechreuon ni ar ein taith ond cawson dywydd braf o hynny ymlaen tan i ni ddychwelyd o fewn tridiau.Gadawon ni’r ysgol yng Nghwmni Miss Jones a Mr Davies – diolch iddynt am edrych ar ein holau a chyrhaeddon ni dre glan môr Aberaeron gyda’r tai amryliw a’i strydoedd trefnus – bendigedig! Yno, cawson ni gyfle i ymlacio a siopa cyn cychwyn am dref Aberystwyth. Cyflwyniad a thaith o amgylch y Llyfrgell Genedlaethol a oedd yn aros amdanon ni yno, ac am brofiad arbennig yn edrych ar drysorau ein cenedl yn enwedig cael cyfle i weld copi o Feibl cynharaf William Morgan yn fanwl. Ymlaen felly i Wersyll yr Urdd yng Nglan Llyn i aros y nos. Yno, cawsom gyflwyniad diddorol i hanes Tryweryn a ffilm cyn noswylio.
Drannoeth, aethon ni i’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis, lle cawson ni gyflwyniad o’r diwydiant llechi a chawson ni gyfle i hollti llechen. Roedd Miss Jones yn arbennig o ddawnus yn gwneud hyn! Aethon ni i Rosgadfan i ymweld â chartref Kate Roberts lle cawson ni flas ar galedi bywyd chwarelwyr ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Ymwelon ni â’r Bala, tref Gymreig ei naws a hynod draddodiadol ar lan Llyn Tegid. Aethon heibio i Dryweryn a Chapel Celyn gan fyfyrio’n dawel wrth weld y cerrig beddau a gludwyd o Gapel Celyn i gofio am y trigolion. Roedd y profiad yma yn hynod o gofiadwy. Gyda’r nos, daeth cyfle annisgwyl i ni gymryd rhan mewn Eisteddfod leol ym mhentref bach Llangywer. Enillon ni’r wobr gyntaf fel côr am ganu ‘Dwylo dros y Môr’. Roedden ni’n swynol iawn yn ôl y beirniad – hyd yn oed gyda’r bechgyn! Nôl wedyn i ddathlu yng Nglan Llyn.
Am adre felly, ar ein trydydd diwrnod. Eto, roedd y diwrnod yn llawn cyffro ac emosiwn wrth i ni alw i weld cofeb i Lywelyn ein Llyw Olaf yng Nghilmeri ac oddi yno, aethon ni i Aberfan,. Roedd hwn yn brofiad dirdynnol ac emosiynol iawn i gloi ein taith.
Diolchwn yn fawr i Miss Jones, Mr Davies a’n gyrrwr bws arbennig o wybodus am ein tywysu’n ddiogel o amgylch Cymru a rhoi’r cyfle i ni ddathlu ein Cymreictod dros Gwyl Ddewi. Cofiwn am ein taith Gwyl Ddewi arbennig ac unigryw am flynyddoedd i ddod.
Megan Dafydd Blwyddyn 10