Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yw’r Ysgol Gyfun Gymraeg 1af a'r 11eg ysgol yng Nghymru i ennill y Gwobr Her NACE Cymru i ddisgyblion mwy abl a thalentog. Mae’r wobr yn cael ei chyflwyno am waith o’r safon uchaf gan Ysgol gyfan, athrawon a llywodraethwyr wrth herio pob disygbl gan gynnwys y disgyblion hynny gyda medrau uchel i gyflawni eu gorau.
Crewyd argraff ffafriol ar yr aseswyr gan yr arweiniad cryf a’r oruchwyliaeth o’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion mwy abl. Canmolwyd hefyd y cymorth da a’r her a ddarperir gan y llywodraethwyr.
Arfarnwyd safon gwaith yr Ysgol gan yr aseswyr trwy arsylwi gwersi, cyfweld â disgyblion, athrawon, rhieni a llywodraethwyr ac wrth edrych ar waith disgyblion. Cyflwynir y wobr pan fo ysgolion yn dangos eu bod yn cwrdd â safonau’r Wobr a bod ymrwymiad i sicrhau fod y ddarpariaeth o’r safon uchaf i ddisgyblion mwy abl a thalentog yn parhau.