Croeso

Mae ein harwyddair “Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd” yn crisialu ein nod o sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd pendraw ei botensial a hynny gyda chymorth athrawon ymroddedig. Rydym yma i gydweithio i greu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf. Disgwyliwn y safon gorau posib gan ein disgyblion ac fe wnawn ni ein gorau i roi pob cyfle ac arweiniad posib iddynt hwy.

Cenhadaeth i’r Disgybl
Nod yr ysgol yw i gynnig Addysg Gymraeg gyflawn i chi a thrwy hynny gwneud yn siwr eich bod yn cyrraedd y safonau uchaf posibl yn ôl eich gallu a’ch talentau. Fe wnawn ni hyn mewn awyrgylch sy’n eich cynnal ac sydd yn eich parchu fel unigolyn.

Cenhadaeth i’r Rhiant
Tra’n gweithio i wireddu ein cenhadaeth i’r disgybl, fe ymrwymwn i’ch cynnwys chi fel partner yn ein hymdrechion, ac i gyfathrebu’n glir ac yn onest yn ôl yr angen.

Newyddion Diweddaraf

Cofiwch

Cynhelir Sesiynau Adolygu TGAU yn ystod Gwyliau Hanner Tymor y Sulgwyn i Fl.11 yn yr Ysgol.

Amserlen Sesiynau Adolygu

Llythyr Sesiynau Adolygu Ychwanegol - Gwybodaeth BWYSIG

Llythyr Sesiynau Adolygu Mathemateg - Set 3 a 4

 

 

  • 7fed ym Mhrydain

    date posted: 22/05/2013

    Llongyfarchiadau mawr i dîm Llawr a Llofneidio YGBM wrth iddynt gystadlu ym Mhencampwriaeth Gymnasteg Ysgolion Prydain, Dydd Sul 12fed Mai, yn Stoke. Roedd Megan Davies, Rhys Beynon, Danielle Kerslake, Emyr Byrne a Ffion Byrne yn cynrychioli’r ysgol a Chymru wrth iddynt gystadlu yn erbyn 12 rhanbarth arall y Deyrnas Unedig. 7fed oedd y tîm ar ddiwedd y gystadleuaeth – canlyniad arbennig i feddwl taw 7fed ym Mhrydain ydynt.

     

AFIAITH

Cyfarfod Nesaf Afiaith - Grŵp o gyn-ddisgyblion Ysgol Gymraeg Sant Baruc

 

Nos Wener 7fed Mehefin, 8y.h yng Ngwesty'r Mount Sorrel.

Cliciwch yma am fwy o fanylion.

  • Newyddion
  • Heddiw
  • Calendr
 
Tudalen Facebook Swyddogol
Cyfrif Twitter Swyddogol