Athletau Amlgamp Cymru

Cynrychiolodd nifer o ddisgyblion Ysgol Bro Morgannwg y Sir, Caerdydd a’r Fro yng nghystadleuaeth athletau amlgamp  Cymru yng Nghasnewydd yn ddiweddar. Roedd pawb yn cystadlu’n frwd ac yn gredit i’r ysgol. Gwnaeth tîm ‘Middle Boys’ Caerdydd a’r Fro ennill cystadleuaeth Cymru Gyfan – ond digwydd bod dau fachgen o Ysgol Bro Morgannwg oedd y tîm buddugol hyn! Y tîm oedd Harri Williams a orffennodd yn ail yn unigol a Ieuan Orton a gorffennodd yn drydydd. Dylid hefyd llongyfarch Jacob Briscombe hefyd a orffennodd yn 6ed. Roedd rhaid i’r bechgyn gystadlu mewn 5 camp: naid uchel, naid hir, clwydi 85m, pwysau a’r 800m. Tipyn o gamp! Llongyfarchiadau Fechgyn!