Tystysgrif a Diploma Gyfrannol - Lefel 3
Bwrdd Arholi: EDEXCEL
Pam Astudio Cerdd?
Ydych chi’n mwynhau perfformio?
Hoffech chi wella’ch sgiliau canu /offerynnol mewn gweithdai Roc a Pop? Efallai y byddai’r cwrs Perfformio BTEC sydd yn gyfystyr â lefel A yn apelio.
Gofynion Mynediad
Mae cymhwyster TGAU cerdd yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol i ddilyn y cwrs yma, er bod y gallu i berfformio yn safonol yn holl bwysig. Fe fydd mynediad i’r cwrs yn ddibynol ar glyweliad neu safon eich sgiliau perfformio ar y cwrs TGAU.
Beth yw Cynnwys y Cwrs?
Bwriad y cwrs fydd i’ch:
- Annog i ddatblygu sgiliau perfformio unigol ac ensemble yn ogystal â sgiliau cyflwyno wrth werthuso a dadansoddi darnau cyfoes o gerddoriaeth.
- Hyfforddi i drefnu a chynllunio perfformiadau estynedig yn unigol ac fel grwp.
- Cynorthwyo i wella eich sgiliau cydweithio ag eraill wrth ddethol repertoire a pherfformio.
Beth yw strwythur y cwrs?
Mae 6 uned i’w hastudio dros gyfnod o ddwy flynedd:
- Gweithio a Datblygu Fel Ensemble
- Sgiliau Perfformio Unigol
- Perfformio arddulliau sesiwn
- Uned Pop
- Technegau Perfformio
- Prosiect Perfformio
Cewch gyfle i wella’ch sgiliau gwrando a defnyddio offer sain, gweithio mewn band / grwp; trefnu a pherfformio gigs.
ASESU
Asesir pob uned ar sail portfolio (yn gymesur ag un Safon Uwch o ran pwyntiau UCAS)
Gyrfaoedd Posib
Gall y cwrs arwain at astudiaethau pellach neu yrfa mewn Perfformio; Byd Adloniant a Diwydiant Cerdd; Gwaith Sain; Cynhyrchu a Recordio; a Byd Gweinyddol y Celfyddydau