CA4

Cynigir dwy iaith at safon TGAU yn yr Adran Ieithoedd Tramor Modern sef Almaeneg a Ffrangeg.  Mae’r cyrsiau yn y ddwy iaith yn parhau â gwaith Cyfnod Allweddol Tri, gyda’r disgyblion yn sefyll arholiadau TGAU CBAC. Mae’r cyrsiau yn sail i astudiaeth bellach o ieithoedd yn y chweched dosbarth.
    
Mae’r adran Ieithoedd Tramor Modern wedi ennill ei phlwyf gyda chanlyniadau TGAU rhagorol gyda disgyblion o bob gallu.

Amcanion Cyffredinol TGAU Almaeneg a Ffrangeg

Nod yr adran wrth gynnig cyrsiau TGAU Almaeneg a Ffrangeg yw rhoi’r cyfle i’r disgyblion ddatblygu yn ddinasyddion eangfrydig sy’n gallu cyfathrebu ag eraill yn hyderus ac sy’n arddangos sgiliau ieithyddol a fydd yn y dyfodol yn fanteisiol ym myd gwaith. Dengys ystadegau diweddar bod ennill cymhwyster mewn ieithoedd yn fanteisiol wrth wneud cais am swyddi yn y meysydd canlynol :    
 
  • Busnes
  • Gweithgynhyrchu
  • Bancio/cyllid
  • Masnach
  • Gwestai a thai bwyta
  • Byd iechyf
  • Trafnidiaeth a theithio
  • Gwasanaethau cymunedol a chymdeithasol
  • Gweinyddiaeth
  • Addysg
  • Sefydliadau Rhyngwladol

Mae astudio Almaeneg a / neu Ffrangeg i safon TGAU yn cyfoethogi ymwybyddiaeth Ewropeaidd y disgyblion ac yn cynnig sgiliau sy’n addas i’r economi byd-eang.

Wrth ddilyn cwrs TGAU Almaeneg a / neu Ffrangeg, amcanir:

  • y bydd y disgyblion yn mwynhau’r profiad cadarnhaol o ddysgu ieithoedd tramor
  • y parheir â dulliau dysgu rhyngweithiol yr adran gan ddatblygu sgiliau rhyngbersonol y disgyblion
  • y datblygir ymhellach y cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli rhwng yr adran â disgyblion mewn ysgolion yn y gwledydd lle siaredir Almaeneg a Ffrangeg
  • y galluogir y disgyblion i ddefnyddio Almaeneg neu Ffrangeg yn naturiol mewn sefyllfaoedd ymarferol
  • yr addysgir y disgyblion am ddiwylliant a gwareiddiad gwledydd lle siaredir Almaeneg neu Ffrangeg, trwy waith yn yr ystafell ddosbarth a thrwy ymweliadau addysgol â’r gwledydd hynny
  • y manteisir ar gyfleon i hybu agwedd bositif tuag at ddysgu ieithoedd tramor a thuag at siaradwyr ieithoedd tramor modern
  • y datblygir ymwybyddiaeth y disgyblion o natur dysgu iaith a thelir sylw i sgiliau astudio amrywiol
  • y datblygir sgiliau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu y disgyblion wrth wneud defnydd o’r rhyngrwyd, e-bost, web cam, pecynnau meddalwedd arbenigol, fideo a theledu lloeren.

Cynnwys y Cyrsiau TGAU Almaeneg a Ffrangeg

Bydd y disgyblion yn dysgu sut i drafod agweddau gwahanol o’u bywydau trwy gyfrwng yr Almaeneg neu’r Ffrangeg. Hyfforddir hwy i ymdopi mewn sefyllfaoedd twristiaeth a byd gwaith tramor. Disgwylir iddynt hefyd ddysgu am faterion byd-eang. Rhestrir themau cyrsiau TGAU Almaeneg a Ffrangeg isod:

Bydd y disgyblion yn dysgu sut i drafod agweddau gwahanol o’u bywydau trwy gyfrwng yr Almaeneg neu’r Ffrangeg. Hyfforddir hwy i ymdopi mewn sefyllfaoedd twristiaeth a byd gwaith tramor. Disgwylir iddynt hefyd ddysgu am faterion byd-eang. Rhestrir themau cyrsiau TGAU Almaeneg a Ffrangeg isod:

  • Bywyd Personol a chymdeithasol – yr hunan, teulu, bywyd cartref, siopa, bwyta, byw’n iach, salwch a damweiniau, amser hamdden, ffasiwn, perthnasau, cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
  • Y Gymdeithas Leol – Tref ac Ardal, Ysgol, Addysg, Yr Amgylchfyd, Llygredd, Ail gylchu, Cyfleusterau Lleol, Cymariaethau gyda threfi ac ardaloedd eraill, y tywydd a’r tymhorau. 
  • Y Byd Gwaith – Profiad Gwaith, Swyddi Rhan Amser, Defnydd o dechnoleg yn y gweithle.
  • Y Byd Eang a Chyfoes – Teithio a Gwyliau, Y Cyfryngau, Materion Cymdeithasol ( bywyd pobl ifainc heddiw, digartrefedd, trosedd, cyffuriau, crefydd, gwleidyddiaeth),  bywyd yn Ffrainc a’r Almaen.

O fewn yr adran, defnyddir ystod eang o ddulliau dysgu ac addysgu er mwyn meithrin mwynhad a hyder y disgyblion yn yr iaith dramor.

Asesu

Arholir y pedair sgil ieithyddol yn Almaeneg a Ffrangeg. Mae gwerth yr asesu ar gyfer pob sgil fel a ganlyn :

Arholiadau Terfynol

  • Gwrando ac ymateb – Haen Sylfaenol neu Uwch  20%
  • Darllen ac ymateb – Haen Sylfaenol neu Uwch     20%

Gwaith Cwrs i’w gyflawni yn ystod bl 10 ac 11

  • Llafar (1 Sgwrs Strwythuredig ac 1 Cyflwyniad)    30%
  • Ysgrifennu (2 dasg ysgrifenedig )                           30%

Mae’r disgyblion yn sefyll arholiad darllen a deall a gwrando a deall ar ddiwedd blwyddyn 11 ond  bydd y gwaith ysgrifenedig a llafar, (sef 60% o’r cwrs)  yn cael ei asesu dros y ddwy flynedd ac yn cael ei gwblhau cyn yr arholiadau terfynol.  Cyflwynir 2 ddarn o waith cwrs a 2 ddarn o waith llafar a gwblheir o dan amodau arholiad yn yr ysgol ar adegau gwahanol yn ystod y ddwy flynedd o astudio’r cwrs TGAU.  Gan fod y rhan fwyaf o’r asesu yn digwydd cyn yr arholiadau terfynol, mae’n hollbwysig fod y disgyblion sy’n dilyn cyrsiau Almaeneg a Ffrangeg yn ymroi i weithio’n gyson drwy flwyddyn 10 ac 11 ac i ymarfer eu sgiliau iaith yn rheolaidd gartref, yn ogystal ag yn y dosbarth.  

Dylai disgyblion sy’n dangos addewid mewn Ieithoedd Tramor Modern yn ystod blwyddyn 9 ystyried astudio Almaeneg a Ffrangeg ar gyfer TGAU. Bydd hyn yn galluogi disgyblion i barhau i astudio ieithoedd ymhellach, ac ni ddylid ystyried astudio dwy iaith fel cyfyngu ar opsiynau.

Mae astudio iaith yn golygu dysgu sgil newydd a fydd yn aros gyda’r disgyblion am oes, ymhell y tu hwnt i’w hastudiaethau TGAU.


Blogio Amlieithog

 

Blogio Amlieithog from Ysgol Bromorgannwg on Vimeo.