Lefel: Uwch Gyfrannol a Safon Uwch
Bwrdd Arholi: CBAC
Pam astudio Ffrangeg?
Mae’r cwrs Ffrangeg Uwch Gyfrannol (UG) a Safon Uwch (U2) CBAC yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio iaith fodern ymhellach ar ôl y cwrs TGAU ac mae yna gysylltiadau eglur rhwng TGAU a UG sydd yn arwain yn naturiol at yr arholiad Safon Uwch (U2). Mae prinder pobl ym Mhrydain sy’n medru siarad ieithoedd tramor, felly mae astudio iaith fodern yn y Chweched yn sgil perthnasol mewn pob mas o feysydd, ac yn sgil sy’n cael ei ystyried yn ddeniadol iawn gan brifysgolion a chyflogwyr. Ffrangeg yw un o ieithoedd mwyaf amlwg Ewrop, ac mae’n cael ei siarad yn ogystal yn Quebec yng Nghanada. Os ewch chi ymlaen i’r brifysgol, bydd cyfle i chi dreulio blwyddyn yn un o’r gwledydd hyn fel rhan o’ch gradd.
Gofynion Mynediad
Dylech lwyddo i ennill o leiaf gradd B ar draws holl unedau’r cwrs Ffrangeg TGAU. Dylech fod wedi sefyll papurau Haen Uwch.
Beth yw cynnwys y cwrs?
Bwriad y cwrs:
- datblygu ac ehangu eich gwybodaeth o’r iaith Ffrangeg ers y cwrs TGAU
- codi hyder wrth siarad Ffrangeg mewn pob math o sefyllfaoedd, gyda phobl gyfarwydd ac anghyfarwydd, gan gynnwys siaradwyr mamiaith
- astudio nifer o themâu megis bywyd pobl ifainc, twristiaeth a’r amgylchedd
- datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o strwythur a gramadeg yr iaith Ffrangeg
- cynnig dealltwriaeth o’r gwledydd ble mae mae Ffrangeg yn cael ei siarad
- rhoi blas o lenyddiaeth a ffilmiau Ffrangeg a’u cyd-destun
- rhoi sylfaen gadarn i’r rheini sydd eisiau astudio Ffrangeg ymhellach yn y brifysgol
Bydd y gwersi’n cynnwys cyfnodau dysgu themâu a thrafodaethau dosbarth er mwyn gwella gwaith ysgrifenedig a sgiliau llafar. Bydd gwaith gramadegol yn cael ei blethu drwy’r holl wersi er mwyn gwella cywirdeb a dealltwriaeth o strwythur yr iaith. Bydd disgyblion yn cael eu hannog i ddefnyddio amrediad eang o adnoddau gan gynnwys unedau a nodiadau’r ysgol, y we a gwefan Wetpaint yr adran yn benodol. Bydd gwaith llafar, ysgrifenedig a phrofion gramadeg yn cael eu cyflawni drwy gydol y ddwy flynedd.
Beth yw strwythur y cwrs?
Cwrs modylol yw UG/U2 mewn Ffrangeg. Byddwch yn sefyll arholiadau llafar gydag arholwr allanol tua amser Pasg ym Mlwyddyn 12 a 13 ac yn sefyll arholiad ysgrifenedig ym mis Mai ym Mlwyddyn 12 ac ym mis Mehefin ym Mlwyddyn 13.
| | % Safon UG
| % Safon U2
|
FR1. Arholiad Llafar gyda’r arholwr allanol (15 munud)
| 40%
| 20%
|
FR2. Arholiad Ysgrifennu, Gwrando, Darllen (2 awr 30 mun)
| 60% | 30% |
Cyfanswm
| 100% | 50% |
|
FR3. Arholiad Llafar gyda’r arholwr allanol (20 munud) sy’n cynnwys cyflwyniad a thrafodaeth am ffilm Ffrangeg
| 20% |
FR4. Arholiad Ysgrifennu, Gwrando, Darllen, (3 awr) sy’n cynnwys traethawd am lenyddiaeth
| 30% |
Cyfanswm
| 100% |
Gyrfaoedd Posibl
Byd busnes, marchnata, cyfieithu, cyfryngau, dysgu, cyfleoedd i weithio dramor