CA5

Y Fagloriaeth Gymreig

Mae’r Fagloriaeth Gymreig yn orfodol i ddisgyblion ym Mlwyddyn 12. Yn dibynnu ar eu hopsiynau a’u gallu, byddent yn astudio’r Fagloriaeth ar lefel Canolradd neu Uwch.

Beth yw’r Fagloriaeth Gymreig?

Mae yna sawl elfen i’r Fagloriaeth Gymreig:

  • Y pynciau rydych yn astudio (TGAU / BTEC / UG)
  • Sgiliau Allweddol
  • Addysg Gysylltiedig â'r Gwaith
  • Cyfranogiad Cymunedol
  • Ymchwiliad Unigol
  • Addysg Bersonol a Chymdeithasol
  • Cymru, Ewrop a’r Byd
  • Mentora a Thiwtora

Y Pynciau

Rhaid dewis y pynciau rydych yn bwriadu astudio o’r colofnau opsiynau. Gallwch astudio cymysgedd o gyrsiau BTEC, TGAU neu gyrsiau Uwch Gyfrannol ond ar gyfer y Fagloriaeth Uwch, bydd rhaid astudio o leiaf dau bwnc sy’n gymesur â dau Safon Uwch lawn.

Sgiliau Hanfodol ac Allweddol

Rhaid i fyfyrwyr gweithio tuag at gymwysterau Lefel 2 a 3 yn y tri sgil hanfodol, Cyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Chymhwyso Rhif a’r tri Sgil Allweddol Ehangach.

Addysg Gysylltiedig â'r Gwaith

Er mwyn cwblhau’r cwrs, rhaid dangos tystiolaeth ar ffurf dyddiadur o 30 awr o weithio â chyflogwr. Gall hwn fod ar ffurf wythnos o brofiad gwaith ym mlwyddyn 12 neu swydd / gwaith rhan amser yn ystod y flwyddyn.

Cyfranogiad Cymunedol

Yn ystod y cwrs, bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 30 awr o waith yn y gymuned e.e. helpu â chynllun darllen mewn ysgol gynradd, ymweld ag ysbyty lleol neu gynorthwyo â chlwb chwaraeon lleol.

Ymchwiliad unigol

Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag Ymchwiliad Unigol yn codi o agwedd ar y Craidd sydd o ddiddordeb arbennig iddyn nhw.  Golyga hyn y gall yr ymchwiliad ddeillio o unrhyw ran o Gymru, Ewrop a'r Byd (CEB), Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) neu Addysg Gysylltiedig â Gwaith (AGG).  Bydd cyflawni'r ymchwiliad o gymorth iddynt ddatblygu sgiliau casglu gwybodaeth, dadansoddi'r wybodaeth honno a'i chyflwyno mewn modd deniadol.  Gall myfyrwyr gyflwyno casgliad o’u hymchwiliad fel cyflwyniad ysgrifenedig neu lafar.

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Ceir pum elfen yn y gydran hon.  Y pedair cyntaf yw:

  • Perthnasoedd Cadarnhaol
  • Iechyd Da, gan gynnwys iechyd rhywiol
  • Hawliau a chyfrifoldebau bod yn ddinesydd gweithgar
  • Deall materion datblygu ac addysg am ddatblygiad cynaladwy

Ym mhob elfen ceir tri mater allweddol a rhaid i fyfyrwyr fynd i'r afael ag un o'r tri.  Golyga hyn fod gan athrawon a myfyrwyr beth dewis o fewn yr elfennau fel y gellir teilwra rhaglen i gwrdd ag anghenion y myfyriwr ac osgoi ailadrodd materion yr ymdriniwyd â hwy'n flaenorol.
Bydd gofyn i fyfyrwyr ymhel â gweithgaredd yn y gymuned leol am o leiaf 30 awr, hon yw'r bumed elfen o ABCh.

Cymru, Ewrop a’r Byd

Rhaid dangos ymwybyddiaeth o faterion ym ymwneud â Chymru, Ewrop a’r Byd. Fel rhan o hyn, rhaid astudio modiwl ieithoedd. Bydd cyfle i fyfyrwyr  i wneud un o’r canlynol:

  • dysgu dawnsio Salsa
  • dysgu iaith ar lefel sylfaenol e.e. Sbaeneg
  • ymweld â gwlad o fewn Ewrop

Mentora

Bydd y myfyrwyr yn mynychu sesiynau mentora gyda’u tiwtor personol yn rheolaidd er mwyn trafod eu cynnydd a materion yn ymwneud â’r Fagloriaeth.