Lefel: Uwch Gyfrannol a Safon Uwch
Bwrdd Arholi: CBAC
Mae'r cwrs Lefel A TGCh Cymhwysol yn cynnwys 4 modiwl. Mae tri modiwl yn orfodol ac un dewisol.
Gofynion Mynediad
Mae'n orfodol fod disgybl wedi ennill Gradd A*-C (neu gyfatebol) mewn TGAU TGCh ac yn ddymunol fod wedi cael Gradd A-C mewn Saesneg/Cymraeg a Mathemateg cyn cychwyn ar y fanyleb.
Beth yw strwythur y cwrs?
Gorfodol
| Opsiynol (Dewiswch naill ai uned 6, 8 neu 9 )
|
1. eFusnes (20%) Allanol: arholiad 3 awr ar-sgrin
| 6. eStiwdio (30%) Mewnol: Aseiniad a ddyfeisiwyd gan y corff dyfarnu
|
2. eSgiliau (30%) Mewnol: Aseiniad a ddyfeisiwyd gan y corff dyfarnu
| 8. eDdysgu (30%) Mewnol: gwaith cwrs
|
5. eBroject (20%) Allanol: aseiniad dan oruchwyliaeth
| 9. eDrafod (30%) Mewnol: gwaith cwrs
|
Mae TAG CBAC mewn TGCh Cymhwysol wedi ei hysgrifennu er mwyn cynnig i fyfyrwyr brofiad cyfoes iawn mewn TGCh. Mae'n ceisio cynnig arloesedd wrth ei chyflwyno ac mae'n hyrwyddo creadigedd myfyrwyr trwy gynllun asesu dibapur. Mae problemau byd real angen datrysiadau byd real, datrysiadau sy'n cydnabod natur amlweddog TGCh yn y gymdeithas heddiw.
Gyrfaoedd Posib
Mae’r fanyleb hon wedi ei llunio i roi sail addas ar gyfer astudio TGCh, neu faes astudio perthynol, mewn addysg bellach neu uwch a/neu baratoad ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Mae enghreifftiau o addysg bellach/uwch yn cynnwys:-
- Graddau Anrhydedd a Sylfaen mewn TGCh neu bwnc perthynol
- Cymwysterau Cenedlaethol Uwch mewn TGCh neu bwnc perthynol
- Lefel 4 a Lefel 3 NVQ mewn TGCh neu bwnc perthynol.