Aeth 4 o enillwyr Spelling Bee Ffrangeg Blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Bro Morgannwg i gystadlu yn rownd ranbarthol De Cymru, Dydd Mercher 23ain Ebrill yn Ysgol Bryn Gwyn, Llanelli. Gwnaeth Joseff Nicholas, Jack Tweddle, Grace Bradbury ac Iestyn Fenn yn ardderchog ar y diwrnod. Fe ddaeth Joseff yn gyntaf a Jack yn ail yn y gystadleuaeth ac felly bydd y ddau ohonynt yn mynd ymlaen i gystadlu yn rownd derfynol Cymru yn Aberystwyth. Dymunwn bob dymuniad da iddyn nhw!