Lefel: Uwch Gyfrannol a Safon Uwch
Bwrdd Arholi: CBAC
Pam Astudio Cerdd?
Fe fydd astudio cerdd ar y lefel yma yn dyst eich bod yn medru cyfuno nifer o sgiliau megis sgiliau academaidd, creadigol ac ymarferol yn ogystal â chael yr hunan ddisgyblaeth i ymarfer offeryn neu’r llais yn gyson er mwyn perfformio yn hyderus: sgiliau hynod bwysig ar gyfer gyrfa mewn unrhyw faes heriol.
Gofynion Mynediad
Disgwylir i chi ennill gradd uchel mewn TGAU yn ogystal a bod o safon gradd 5 o leiaf ar offeryn neu llais. Fe fyddai gradd 5 theori yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol ar gyfer dilyn y cwrs yma.
Beth yw cynnwys y cwrs?
Bwriad y cwrs fydd i’ch:
- annog i ddatblygu sgiliau perfformio, cyfansoddi a gwerthuso drwy adnabod a dadansoddi arddulliau o’r cyfnod Baroc i’r cyfoes.
- paratoi i berfformio rhaglen estynedig mewn arholiad allanol.
- annog i greu cyfansoddiadau a fydd yn defnyddio y wybodaeth a’r dealltwriaeth o’r elfennau cerddorol a astudiwyd wrth ddadansoddi a gwrando ar gerddoriaeth.
- cynorthwyo i ddatblygu sgiliau cyfansoddi a thechnoleg gwybodaeth drwy ddefnyddio y feddalwedd ddiweddaraf wrth greu a sgorio eich gwaith.
Beth yw strwythur y cwrs?
Ceir tair uned yn y cwrs: MU1, MU2 a MU3 a dau faes astudiaeth – rhestr A a B.
MU1
Perfformio 15% – Arholiad allanol - Ebrill / Mai
8-10 munud o hyd (3 darn) o safon gradd 5 neu’n uwch – fel aelod o ensemble neu fel unawdydd. Rhaid i un darn fod yn adlewyrchu un o feysydd astudiaeth y cwrs a astudiwyd yn MU3 (Gwerthuso).
MU2
Cyfansoddi 15%– Gwaith cwrs i’w safoni’n allanol – Ebrill
Rhaid cwblhau dau gyfansoddiad gwrthgyferbyniol rhwng 4 – 8 munud o hyd. Dylai un cyfansoddiad adlewyrchu maes astudiaeth A (Gwerthuso)
MU3
Gwerthuso 20% - Arholiad dwy awr mewn dwy ran: fis Mai / Mehefin.
Rhan 1 (12%) – Arholiad gwerthuso ar y gweithiau gosod isod:
Cerddoriaeth Cerddorfaol
- JS Bach - Concerto Brandenburg Rhif 2 - Symudiad 1af
- Beethoven – Symffoni Rhif 5 yn C leiaf - Symudiad 1af
- Mendelssohn – Concerto i’r Ffidil – Symudiad 1af.
Caneuon o Gymru
- Mervyn Burtch 2 gan allan o ‘Tair o ganeuon Gwerin’
- Dilys Elwyn-Edwards 2 gan allan o ‘Caneuon y Tri Aderyn’
- Caryl Parry Jones ‘Pan Ddaw Yfory’ ac ‘Y Nos yng Nghaer Arianrhod’
Rhan 2 (8%) – Arholiad cyffredinol ar arddulliau Baroc, Clasurol a Rhamantaidd a phrawf dirniadaeth clust ar draw, rhythm a gwaith harmoni.
Gyrfaoedd Posib
Mae astudio cerdd lefel A yn hanfodol os ydych am astudio’r pwnc yn y brifysgol neu am ddilyn cwrs perfformio mewn conservatoire.