Mae ein harwyddair “Dyro dy law i mi ac
fe awn i ben y mynydd” yn
crisialu ein nod o sichrau fod pob disgybl yn cyrraedd pendraw ei
botensial a hynny gyda chymorth athrawon ymroddedig. Rydym yma i gydweithio
i greu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf. Disgwyliwn
y safon gorau posib gan ein disgyblion ac fe wnawn ni ein gorau i
roi pob cyfle ac arweiniad posib iddynt hwy.
Cenhadaeth i’r
Disgybl
Nod yr ysgol yw i gynnig Addysg Gymraeg gyflawn i chi a thrwy hynny gwneud yn
siwr eich bod yn cyrraedd y safonau uchaf posibl yn ôl eich gallu a’ch
talentau. Fe wnawn ni hyn mewn awyrgylch sy’n eich cynnal ac sydd yn
eich parchu fel unigolyn.
Cenhadaeth i’r Rhiant
Tra’n gweithio i wireddu ein cenhadaeth i’r disgybl, fe ymrwymwn
i’ch cynnwys chi fel partner yn ein hymdrechion, ac i gyfathrebu’n
glir ac yn onest yn ôl yr angen.
Cenhadaeth i’r Athro/Athrawes
Rydym am sicrhau cynnydd parhaus yn safonau yr ysgol ac fe wneid hyn drwy wneud
yn siwr eich bod yn cyrraedd y safonau uchaf posibl yn ôl eich gallu a’ch
talentau. Gwnawn hyn mewn awyrgylch sy’n eich cynnal, eich datblygu ac
sydd yn eich parchu chi fel unigolyn.
Rwy’n gobeithio felly y cewch flas
o’r hyn a gynigir
yn Ysgol Y Fro drwy bori drwy dudalennau’r wefan hon. Rydym
yn falch o’r hyn a grëwyd yma ers fis Medi 2000. Rwy’n
gobeithio y byddwch chi’n rhannu’r balchder yma.
Dr Dylan Jones
Pennaeth |