cryf yw’r enw ar y Gymdeithas Cyfeillion, Rhieni ac Athrawon yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg. Rydym yn gymdeithas weithgar a chyfeillgar ac mae croeso i bawb bob amser.

Prif amcanion cryf yw

  1. hybu diddordeb yn yr ysgol ymysg rhieni’r disgyblion
  2. darparu cyfleoedd i gyfnewid syniadau a phrofiadau
  3. trefnu gweithgareddau cymdeithasol a chodi arian at gronfa’r ysgol

Nod hyn oll yw dod â phawb at ei gilydd mewn awyrgylch anffurfiol, er lles parhaol yr ysgol.

Os oes gyda chi syniadau ar gyfer digwyddiadau yr hoffech weld cryf yn eu cynnal, neu am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau yn y dyfodol, anfonwch e-bost at cryf@bromorgannwg.org.uk

 
Contact us