Ein nod yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yw darparu gwasanaeth o’r safon uchaf i bawb sy’n ymwneud â'r ysgol. Rydym yn gosod pwyslais mawr ar anghenion yr unigolyn. Drwy warchod buddiannau ein gilydd byddwn yn sicrhau llwyddiant i bawb. Athroniaeth o bartneriaeth - rhwng yr ysgol, y disgyblion a'r rhieni -sydd gennym yma ac theimlwn yn gryf mai gyda’n gilydd y gwireddwn y freuddwyd sy’n ffurfio arwyddair yr ysgol: “Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd”. Gobeithio bydd pori tudalennau’r adrannau unigol yn rhoi blas i chi o ystod a safon y profiadau addysgol ac allgyrsiol a gynigir yma yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg.

 

 
Contact us