Amcanion:
Bydd y cwrs yma yn rhoi cyfleoedd i ymgeiswyr ddatblygu eu meddwl beirniadol a rheoli amrywiaeth o adnoddau er mwyn datblygu eitemau sy'n addas i anghenion unigolion neu deuluoedd, a nodi dylanwad tueddiadau cyfredol, economi marchnad a newid technolegol. Mae'n hyrwyddo dealltwriaeth o ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deallusol y plentyn a chaiff hyn ei ryng-gysylltu trwy astudio'r teulu, y gymuned a chyfrifoldeb bod yn rhieni. Bydd yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr ddatblygu dealltwriaeth o ddinasyddiaeth trwy faterion perthnasol y pwnc.
Mae yna chwech uned i’r cwrs yma:
Uned 1 – Y teulu a’r plentyn
- Mathau o deulu
- Swyddogaethau/Cyfrifoldeb
- Rolau
- Perthnasoedd
- Anabledd
- Cefnogaeth i’r teulu a’r plentyn
Uned 2 – Bwyd ac Iechyd
- Egwyddorion deiet iach
- Nodau a thargedau dietegol
- Anghenion dietegol arbennig
- Diogelwch bwyd
Uned 3 – Beichiogrwydd
- Paratoi am feichiogrwydd
- Datblygiad y ffoetws
- Gofal cyn-geni
- Geni’r baban
- Gofal ôl eni
Uned 4 – Datblygiad Corfforol
- Y camau datblygiad corfforol y plentyn
- Ffactorau’n effeithio ar ddatblygiad corfforol
Uned 5 – Datblygiad Deallusol
- Ffactorau sy’n effeithio ar ddysgu
- Camau datblygiad deallusol
- Cymhorthion dysgu
- Dysgu trwy chwarae
- Mathau o chwarae
Uned 6 – Datblygiad cymdeithasol ac Emosiynol
- Camau datblygiad cymdeithasol
- Ffactorau’n effeithio ar ddatblygiad cymdeithasol
- Camau datblygiad emosiynol
- Ffactorau’n effeithio ar ddatblygiad emosiynol
Bydd yr arholiad yn cynnwys:
- Papur theori (40%) papur 1½ awr yw hwn. Bydd pob cwestiwn yn orfodol.
- Tasg a bennir gan y Bwrdd (30%). Tasg yn ffocysu ar y plentyn. Bydd hon yn cael ei gosod gan y Bwrdd ac fe’i gwneir o dan amodau rheoledig. (Mis Ionawr Blwyddyn 11)
Bydd disgwyl i’r disgyblion gyflawni:-
a) gwaith ymchwil
b) gwaith ymarferol
Bydd hwn yn cael ei gynnal yn mis Ionawr ym Mlwyddyn 11 ac yn para deg awr.
3. Gwaith cwrs – asesiad (30%). Bydd hyn ar ffurf astudiaeth o blentyn. Rhaid iddo gynnwys sylwi ar blentyn dros gyfnod o amser. Mae’n rhan annatod o’r cwrs. (Tymor 2/3 Blwyddyn 10).