Amcanion
Mae'r term Deunyddiau Gwrthiannol yn cyfeirio at y deunyddiau cyffredin fel metel, plastig a phren a ddefnyddir i greu mwyafrif y cynhyrchion ac adeileddau ein byd modern. Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu am eu priodweddau a'u defnydd ymarferol yn ogystal â'r prosesau angenrheidiol fel triniaeth wres, siapio ac ail-ffurfio. Fe fyddwch yn gweithio gydag amrywiaeth eang o ddeunyddiau er mwyn dylunio a gwneud cynhyrchion ymarferol sy'n cwrdd ag anghenion sefyllfaoedd dylunio realistig.
Dyma gyfle i ddatblygu'r wybodaeth a dealltwriaeth i'ch galluogi i ddilyn gyrfa fel dylunydd neu beiriannydd.
A ydych chi'n mwynhau :
- creu eich cynhyrchion eich hunan gan ddefnyddio deunyddiau fel plastig, metel a phren?
- dylunio o'r syniad gwreiddiol hyd at ddatrysiad terfynol?
- gweithio gydag offer llaw, peiriannau ac offer cyfrifiadurol?
- gweithio gyda meddalwedd dylunio fel 'ProDesk Top' a '2D Design'?
Os felly,
DEUNYDDIAU GWRTHIANNOL yw'r dewis i chiManylion y Cwrs
Yn ystod Blwyddyn 10 fe fyddwch yn mynd i’r afael â chyfres o brosiectau a thasgau byr er mwyn estyn eich dealltwriaeth a phrofiad ym mhrif-feysydd y cwrs, sef:
- gweithio gyda metelau
- gweithio gyda phlastigion
- gweithio gyda phren naturiol a chyfansawdd
- dylunio â chymorth cyfrifiadaur/gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur (CAD/CAM)
Fe fyddwch yn dylunio a gwneud eich cynhyrchion eich hunan yn ogystal â defnyddio CAD/CAM er mwyn modelu a gweithgynhyrchu cynhyrchion o safon. Fe fyddwch yn ymestyn eich gwybodaeth a gallu i ddefnyddio meddalwedd bwrpasol fel 'ProDesk Top' a '2D Design'.
Y dasg asesu Deunyddiau Gwrthiannol fydd prif ffocws blwyddyn 11, sef cynnyrch ymarferol a phortffolio dylunio i'w gyflwyno ar bapur neu drwy ddefnydd o Dechnoleg Gwybodaeth. Gall themau addas ar gyfer datblygu cynnyrch gynnwys gemwaith, dyluniadau dodrefn, gemau addysgiadol, cymhorthion ar gyfer yr anabl neu systemau storio.
Asesu
Bydd y cynllun asesu yn cynnwys dwy gydran:
- Asesiad dan Reolaeth (60%) - tasg asesu dylunio a gwneud i gynnwys cynnyrch tri dimensiwn a phortffolio dylunio (30 awr).
- Papur Ysgrifenedig 2 awr (40%) - bydd gofyn i’r ymgeiswyr eistedd arholiad dwy awr o hyd (wedi’i rannu’n ddwy adran), a gaiff ei osod a’i farcio gan CBAC.
Mae’r asesu ar gyfer Defnyddiau Gwrthiannol TGAU yn ddi-haen, h.y. mae’r holl gydrannau/unedau’n darparu ar gyfer yr ystod lawn o allu ac yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr ennill graddau A*-G am y pwnc.