Digwyddiadau

  • Chris Coleman yn YGBM

    date posted: Friday 4 May 2012
    Ar ddydd Gwener, Ebrill 27ain ymwelodd rheolwr tîm pêl-droed Cymru â’r Ysgol. Cynhaliwyd sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Chris cyn iddo gael ei lun wedi tynnu gyda thimau pêl-droed yr Ysgol. Gwnaeth y plant mwynhau gonestrwydd a charisma Chris wrth iddo ateb eu cwestiynau.
  • Diwrnod y Menywod

    date posted: Wednesday 25 Apr 2012
    Wrth gyrraedd Neuadd Goffa’r Barri cawsom ein croesawu gan stoliau o bob math, yn hysbysebu mudiadau gwahanol yn ymwneud â gweithredoedd menywod e.e Amgueddfa Heddlu De Cymru, Atal y Fro a Gyrfa Cymru. Ymhen ychydig, cawsom ein tywys i’n seddi er mwyn gwrando ar y siaradwyr. Yn gyntaf death Philippa Davies. Prif thema ei haraith oedd adegau allweddol a pwysigrwydd ffeindio yr hyn sy’n eich hysgogi. Tanlinellodd hefyd pa mor pwysig yw mwynhau beth ydych yn gwneud. Nesaf cawsom araith o’r dirprwy prif gwnstabl Colette Paul. Roedd hi’n trio ein ysbrydoli i fod yn ddewr a sefyll lan am beth ydych yn credu sy’n gywir. Yna cawsom egwyl fyr er mwyn mwynhau’r  byrbrydion deiniadol yn llond.

    Ail-ddechreuwyd y digwyddiad gan lais Annette Chinn, sydd yn arbennigo mewn fenter a busnes. Prif pwyntiau ei haraith oedd pwysigrwydd paratoi, a gadael eich sefyllfa ddelfrydol er mwyn datbygu’n bersonnol. Siaradwr olaf y diwrnod oedd Lt. Col. Caroline Whittaker. Gwnaeth stori Lt. Col. Whittaker am adael ysgol heb unrhyw cymhwysterau a dal llwyddo yn y byd ysbrydoli pawb. Ar y cyfan, cawsom diwrnod ysbrydol yn Neuadd Goffa’r Barri, ac rydym yn gobeithio y cawn ein gwahodd eto y flwyddyn nesaf!

    Phoebe Elias

  • Profiad Bl.8 o Stwnsh

    date posted: Wednesday 4 Apr 2012
    Ymwelodd dau o gyflwynwyr Stwnsh â ddisgyblion flynyddoedd 7 ac 8 yr wythnos diwethaf. Cafodd y ddisgyblion llawer o hwyl a sbri wrth gymryd rhan yn gweithgareddau yn neuadd yr ysgol. Dyma farn rhai o ddisgyblion flwyddyn 8:

    Mi ddaeth dau o gyflwynwyr Stwnsh i’n hysgol ar ddydd Mawrth, y seithfed ar hugain, er mwyn cynnal gweithgareddau ar ein cyfer. Cawsom ni lawer o hwyl yn eu cwmni, fe fwynheuon ni nifer o weithgareddau er enghraifft Slapjan, cwis a.y.y.b. Diolch yn fawr i’r ddau am ddod, a dangos bod modd cael hwyl drwy gyfrwng y Gymraeg.
    Lois Aled, 8R

    Roedd ymweliad Tudur ac Anne o Stwnsh yn llawer o hwyl, roedd pawb yn mwynhau gemau a gweithgareddau yn enwedig am eu bod trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n meddwl fy hoff ddarn o’r ymweliad (a llawer o blant eraill hefyd) oedd pryd gafodd Mrs Rees, ein pennaeth blwyddyn ei ‘stwnshio’ yn ei gwyneb gyda phlat o hufen siafio. Mi fydden ni i gyd yn hoff o’u gweld nhw eto!
    Clara Jackson, 8R


    Diolch yn fawr i Anni a Tudur cyflwynwyr Stwnsh am ddod i’n Ysgol ar fore dydd Mawrth. Cafodd blynyddoedd 7 ac 8 gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau llawn hwyl gan gynnwys Slapjan, cwis a llawer mwy. Roedd hi’n gyfle i gymdeithasu a siarad drwy gyfrwng y Gymraeg!
    Gwydion Evans, Bl. 8


    Roedd y profiad o wario amser gyda chyflwynur Stwnsh yn grêt, cefais amser arbennig, llawn gweithgareddau doniol. Roedd hi’n hyfryd gallu cymdeithasu gyda pobl o du allan i’r Ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg. Gobeithio gwelwn ni chi eto cyn bo hir. Diolch yn fawr Tudur ac Anni.
    Niamh Cooper, 8R

    Mwynheiais ymweliad Tudur ac Anni i’n hysgol, roedd yn hwyl iawn pan daflodd Tudur hufen eillio yn wyneb Miss Evans!!
    Megan McIntyre, 8B


    Hoffwn i ddweud diolch i chi, am ddod i’n hysgol ni. Fe chwaraeom ni gemau llond hwyl a gweithgareddau grêt, roedd y profiad yn un i’w gofio. Mwynheuais i’r gemau i gyd ond enwedig pan roedd angen defnyddio hufen siafo i stwnshio ein hunain! Chwaraeom ni gêm bechgyn yn erbyn merched. Roedd hyny’n grêt ond yn anffodus enillodd y bechgyn. Derbynais crys-t stwnsh lliwgar iawn am ennill gêm grêt. Dw i yn hoffi’r ffaith bod gen i rhywbeth arbennig i gofio am y diwrnod ardderchog! Diolch!
    Carys Lewis, 8R


    Roedd yna ddau gyflwynydd o Stwnsh wedi ymweld â ni, Tudur ac Anni; pobl bywiog a llond hwyl oedd wedi cael pawb mewn hwyl da. Gwnaethom sawl gweithgaredd gyda nhw oedd wedi rhoi cyfle i bawb i gymryd rhan a chael hwyl. Rwy’n bles wnaeth Anna a Tudur ddod i’r Ysgol, a gobeithio gallant drefnu ymweliad arall. Diolch!
    Cerys Evans, 8R
  • Diwrnod Gwrth-Hiliaeth Bl9

    date posted: Monday 26 Mar 2012
    Fel rhan o uned waith blwyddyn 9 ar wrth hiliaeth, cynhaliwyd Diwrnod ABCh Gwrth Hiliaeth i flwyddyn 9 ar dydd Gwener y 9fed o Fawrth. Cydweithiodd yr Ysgol gyda Show Racism the Red Card er mwyn cynnal y diwrnod ar y cyd gyda’r adrannau Addysg Grefyddol ac Addysg Gorfforol. Roedd yr adborth gan y disgyblion a’r cwmni yn galonogol iawn ac mi fydd blwyddyn 9 yn parhau gyda’r uned yn eu gwersi ABCh.
  • Diwrnod Masnach Deg Bl7

    date posted: Monday 26 Mar 2012
    Cynhaliwyd diwrnod Masnach Deg i flwyddyn 7 ar ddydd Mawrth y 6ed o Fawrth. Rhoddwyd cyfle i’r disgyblion ddysgu am fywydau pobl ifanc yn India sydd wedi eu heffeithio gan fudiad Masnach Deg a dysgon nhw am fywydau pobl yn Zimbabwe ar ffurf ymweliad gan Martha Holman (Fair Trade Wales a Love Zimbabwe). Roedd aelodau o Bwyllgor Eco y chweched dosbarth yn rhoi cymorth i ddisgyblion blwyddyn 7 wrth iddynt ymchwilio i nwyddau masnach deg yn yr archfarchnad lleol.