Lefel: Uwch Gyfrannol a Safon Uwch
Bwrdd Arholi: CBAC
Pam astudio Dylunio a Thechnoleg?
Mae cwrs mewn Dylunio a Thechnoleg yn cynnig cyfle unigryw yn y cwricwlwm i chi ddarganfod a datrys problemau go iawn trwy ddylunio a gwneud cynhyrchion mewn amrywiaeth o eang o gyd-destunau yn ymwneud â’ch diddordebau personol neu’ch dewis o yrfa. Disgwylir i fyfyrwyr sydd yn dewis y cwrs ddangos ddychymyg, dyfeisgarwch a pharodrwydd i weithio’n annibynnol.
Gofynion Mynediad
Gradd B neu’n uwch mewn Dylunio a Thechnoleg Cynhyrchion Graffig neu Systemau Rheoli ar lefel TGAU. Fe fydd addasrwydd myfyrwyr nad ydynt wedi dilyn y cwrs TGAU (ond sydd wedi ennill o leiaf 5 TGAU gradd A* i C) yn cael ei ystyried ar lefel unigolyn.
Beth yw cynnwys y cwrs?
Bydd amrywiaeth eang o ddulliau dysgu yn cael eu defnyddio gan gynnwys darlithoedd, trafodaeth dosbarth, arddangosfeydd ymarferol, arsylwi ac ymweliadau diwydiannol. Mae yna bwyslais gryf ar hunan-astudiaeth mewn sawl rhan o’r cwrs. Ceir mwy o wybodaeth isod:
Beth yw strwythur y cwrs?
Uwch Gyfrannol (UG), Blwyddyn 12
DT1: Papur Arholiad (20%) 2 awr
3.1.1 Dylunio ac arloesi - sut i wella eich sgiliau dylunio sylfaenol er mwyn datrys problemau.
3.1.2 Dadansoddi cynhyrchion - deall y gofynion mae'n rhaid i gynnyrch eu bodloni, asesu'n feirniadol gynhyrchion heddiw, ac ystyried cynhyrchion newydd yng nghyd-destun posibiliadau'r gorffenol, y presennol a'r dyfodol.
3.2.1 Defnyddiau a chydrannau - meithrin dealltwriaeth eang o'r amrywiaeth o ddefnyddiau a chydrannau sydd ar gael ar gyfer gweithgynhyrchu.
3.2.2 Arfer diwydiannol a masnachol - deall gwahanol ddulliau cynhyrchu a'r gallu i gymhwyso arferion masnachol priodol mewn projectau ymarferol.
DT2: Tasg Dylunio a Gwneud (30%) tua 60 awr
Bydd yr ymgeiswyr yn ymgymryd ag un tasg dylunio a gwneud sydd yn bodloni'r meini prawf asesu
Uwch Gyfrannol.Safon Uwch, Blwyddyn 13
DT3: Papur Arholiad (20%) 2½ awr
3.1.3 Cyfrifoldeb dynol - meithrin y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gefnogi gweithgaredau dylunio trwy gynyddu ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau cymdeithasol, moesol, moesegol a chyfreithiol y dylunydd.
3.1.4 Rhyngweithiad cyhoeddus - yn ymwneud â dylunio cynhyrchion a'i le yn y farchnad, er enghraifft, sut y gall syniad am ddyluniad gael ei droi'n gynnyrch gwerthadwy.
3.2.3 Prosesau - meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth eang o brosesau.
3.2.4 Systemau cynhyrchu a rheolaeth - cymhwyso gwybodaeth am systemau cynhyrchu a thechnegau rheoli i gael gwybodaeth a data dilys a dibynadwy er mwyn cynhyrchu gweithgynhyrchion o safon.
DT4 : Project (30%) tua 60 awr
Bydd yr ymgeiswyr yn ymgymryd ag un project sylweddol. Bob blwyddyn bydd CBAC yn gosod wyth thema ar gyfer y project, er y gall ymgeiswyr hefyd gyflwyno cynigion eu hunain i'w cymeradwyo.
Gyrfaoedd Posib
Targedir y cwrs at fyfyrwyr sydd yn bwriadu dilyn cyrsiau Addysg Bellach neu yrfa mewn Dylunio a Thechnoleg neu feysydd cysylltiedig fel Dylunio Cynnyrch, Peirianneg, Gweithgynhyrchu, Dylunio Graffigol, Dylunio Mewnol neu Bensaerniaeth.