Lefel: Uwch Gyfrannol a Safon Uwch
Bwrdd Arholi: CBAC
Pam astudio Ffiseg?
Mae Ffiseg yng nghalon pob peth ac yn bwnc diddorol iawn i astudio yn yr ysgol, prif ysgol ac yn bellach. Mae Ffiseg yn helpu darganfod atebion i gwestiynau anodd fel sut ddechreuodd y bydysawd a sut y bydd yn dod i ben? Beth yw twll du? Ydy e’n bosib teithio yn ôl mewn amser? Ffiseg sy’n darparu’r sylfaen i ddatblygiad technolegau newydd a dyfodol ein byd. O ddarnau lleiaf ein cyrff i’r galaethau mwyaf, Ffiseg sy’n helpu ni i ddeall sut mae ein bydysawd yn gweithio.
Bydd astudio Ffiseg hefyd o gymorth wrth i ni ddatblygu y sgiliau trosglwyddadwy hanfodol sydd eu hangen ym myd gwaith.
Pobl chwilfrydig sy’n hoffi gwybod sut a pham mae pethau yn digwydd sy’n gwneud Ffisegwyr da. Mae angen sgiliau rhesymegol a rhifedd da a’r gallu i ddatrys problemau. Gwnawn ddefnydd helaeth o dechnoleg gwybodaeth i gynnal arbrofion, gan ddefnyddio sgiliau llythrennedd a chyfathrebu da i gyflwyno gwaith yn gyhoeddus neu ar ffurf adroddiad.
I astudio Ffiseg ym mlwyddyn 12 fydd rhaid ennill gradd B neu’n uwch yng Ngwyddoniaeth Ddwbl TGAU. Gallwn ystyried myfyriwr â gradd C dim ond ei iddo berchen ar y sgiliau angenrheidiol i astudio Ffiseg.
Beth bynnag i chi am wneud mewn bywyd, gall Ffiseg fod yn gymorth i chi!
Gofynion Mynediad
Dylech lwyddo i ennill graddau B neu’n uwch mewn Gwyddoniaeth Ychwanegol / Ffiseg Driphlyg ar lefel TGAU. Dylech fod wedi sefyll papurau Haen Uwch. Rhown ystyriaeth arbennig i ddisgyblion â graddau C os yw’n meddu ar y sgiliau angenrheidiol i gwblhau’r cwrs. Yn ogystal, dylech lwyddo i ennill gradd B neu’n uwch mewn Mathemateg TGAU.
Beth yw cynnwys y cwrs?
Mae’r cwrs Ffiseg yn cynnwys llawer o waith ymarferol a fydd yn cael ei ddefnyddio fel sail i drafodaeth pellach ac i ddatrys problemau.
Ym mlwyddyn 12 fydd y myfyrwyr yn dilyn cwrs Uwch Gyfrannol, sydd yn cynnwys tri uned. Dau uned PH1 a PH2 sy’n cynnwys theori gydag arholiad, ac un uned PH3 sy’n ymarferol.
Ym mlwyddyn 13 gall y myfyrwyr astudio unedau PH4, PH5 a PH6 er mwyn ennill gradd Uwch.
Beth yw strwythur y cwrs?
| | % Lefel UG
| % Lefel U2
|
PH1. Mudiant, Egni a Gwefr
| 40%
| 20% |
PH2. Tonnau a Gronynnau
| 40% | 20% |
PH3. Ffiseg Ymarferol
| 20% | 10% |
Cyfanswm
| 100% | 50%
|
| |
PH4. Osgiliadau a Meysydd
| 18%
|
PH5. Electromagnetig, Niwclysau ac Opsiynau
| 22%
|
PH6. Asesiad Arbrofol a Synoptig
| 10% |
Cyfanswm
| 100% |
Gyrfaoedd Posib
Mae Ffiseg yn agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd. Mae dros hanner y ffisegwyr yn gweithio ym meysydd ymchwiliol a datblygiad, peirianneg a thechnoleg gwybodaeth. Mae eraill yn gweithio ym meddyginiaeth, seryddiaeth, meteoroleg a dysgu. Mae cyfleon da i’w cael yn y sectorau ariannol, telathrebu a diwydiant trydanol, pob un â thâl uchel o tua £40Mil. Mae rhai Ffisegwyr yn gweithio i ddatrys problemau ar ffin ein dealltwriaeth ac eraill yn defnyddio Ffiseg i ddatrys problemau heriol sy’n codi o agweddau diwydiannol ym mywyd pob dydd.