Graffeg

Amcanion y Cwrs

Mae’r maes penodol hwn yn ymwneud â dylunio cynhyrchion a chynnwys graffigol yn bennaf. Nid yw’r maes penodol hwn yn astudiaeth o dechnoleg defnyddiau gwrthiannol ac felly bydd pwyslais y cwrs hwn yn disgyn ar gynhyrchu a chyflwyno gwaith tri-dimensiwn gan ddefnyddio technegau arlunio a chyflwyno penodol er mwyn arwain at gynnyrch llwyddiannus. Bydd disgwyl i’r disgybl fod yn fanwl gywir wrth ddefnyddio offer technegol dylunio traddodiadol a chyfoes gan ddelio’n hyderus gyda unedau mesur ar raddfeydd amrywiol. Yn aml, model neu brototeip fydd canlyniad y gwaith ymchwil a’r dadansoddi, a disgwylir i’r disgybl fedru gweithio’n gywrain yn aml ar waith sy’n gofyn am amynedd a chanolbwyntio. Bydd y disgybl yn cael ei annog i ddefnyddio CAD/CAM yn ystod y broses ddylunio.

Manylion y Cwrs

Erbyn diwedd y cwrs rhaid i chi fedru:-

Deall y gwahaniaeth rhwng brîff dylunio a manyleb ddylunio.
Dadansoddi brîff dylunio.
Nodi meini prawf hanfodol i’w cynnwys yn y fanyleb.
Defnyddio cynhyrchion sy’n bodoli eisoes fel ffynhonnell syniadau.
Defnyddio gwahanol strategaethau ymchwil i ddod o hyd i wybodaeth.
Ystyried anghenion a gwerthoedd amrywiaeth o ddefnyddwyr.
Bod yn ymwybodol o’r costau economaidd.
Ystyried y dylanwadau moesol, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ar ddylunio cynhyrchion.
Cymryd deddfwriaeth berthnasol ar ddiogelwch i ystyriaeth.
Dangos ymwybyddiaeth o dechnolegau newydd.
Dangos dealltwriaeth o farchnata a hysbysebu.
Ymateb yn gadarnhaol i’r angen am newidiadau yn ystod y broses dylunio a gwneud.
Defnyddio TGCh.
Defnyddio technegau modeli ar gyfer datblygu syniadau.
Cyfleu cynigion dylunio yn fanwl gywir.
Ystyried sut mae cynhyrchion yn cael eu dylunio i’w gweithgynhyrchu ar raddfa fwy.
Defnyddio ystod o dechnegau ymchwilio.
Deall a defnyddio Geometreg.
Deall a defnyddio dulliau lluniadu orthograffig yn yr ongl gyntaf a thrydedd ongl.
Defnyddio dulliau lluniadu isomedrig, persbectif un a dau bwynt, lluniadau taenedig a thorri i ffwrdd.
Deall pwrpas a defnyddio ffyrdd o reoli ansawdd yn y gwaith.
Deall a defnyddio systemau gwerthuso.
Cymharu costau y cynigion dylunio.
Defnyddio amrywiaeth o offer perthnasol ar gyfer cynhyrchu’n llwyddiannus. Dylai pob disgybl fod yn hyderus i gyfathrebu mewn trafodaethau ac i gyflwyno sgyrsiau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i Ddylunio a Thechnoleg.
Rhoddir pob cyfle i  ddisgyblion ymgymryd â’r cyfrifoldeb o ddatblygu eu sgiliau heb fod yn or-ddibynnol ar arweiniad a dylanwad yr athro. Cofier mai datrys problemau sydd wrth wraidd Dylunio a Thechnoleg ac y bydd disgwyl i bob disgybl arddangos hyn yn ei ddewis o brosiect.

Asesu

Bydd y cynllun asesu yn cynnwys dwy gydran:
  1. Asesiad dan Reolaeth (60%) - tasg asesu dylunio a gwneud i gynnwys cynnyrch tri dimensiwn a phortffolio dylunio (30 awr).
  2. Papur Ysgrifenedig 2 awr (40%) - bydd gofyn i’r ymgeiswyr eistedd arholiad dwy awr o hyd (wedi’i rannu’n ddwy adran), a gaiff ei osod a’i farcio gan CBAC.
Mae’r asesu ar gyfer Cynhyrchion Graffeg TGAU yn ddi-haen, h.y. mae’r holl gydrannau / unedau’n darparu ar gyfer yr ystod lawn o allu ac yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr ennill graddau A*-G am y pwnc.