Gweithdy Llongddrylliad

 
Ar Ionawr 31 daeth 18 disgybl o'r ysgolion cynradd i Ysgol Bro Morgannwg i gymryd rhan mewn Gweithdy Gwyddoniaeth gyda 10 disgybl o Flwyddyn 7. Bwriad y dydd oedd cryfhau'r cysylltiadau Pontio rhwng yr ysgolion a rhoi cyfle i'r disgyblion cynradd i ddod i adnabod yr ysgol cyn iddynt ddechrau ym mis Medi. Thema'r dydd oedd 'Llongddrylliad' a chafwyd sawl gweithgaredd ymestynnol gan gynnwys puro dŵr afon a môr, creu cysgod a chynllunio cwch. Diolch i Mr James Evans am arwain y diwrnod.