
Eleni bydd Charlotte Richards ac Esyllt Jenkins o fl.12 yn cynrychioli’r Ysgol ar y Prosiect Gwersi o Auschwitz. Mi fydd y ddwy yn mynychu seminarau yng Nghaerdydd ac yn ymweld ag Auschwitz cyn cyflwyno aseiniadau i’w hachredu gan Brifysgol Hull. Bwriad y prosiect yw i godi ymwybyddiaeth y disgyblion o erchylltra’r holocost. Byddent yn mynd ati i rannu eu profiadau gyda gweddill yr Ysgol a’r gymuned trwy gyfrwng cyflwyniadau a gwasanaethau.