Cafodd pob tîm a gystadlodd yng nghystadleuaeth Gymnasteg y Sir yn ddiweddar lwyddiant. Roedd y tîm bechgyn hŷn yn fuddugol, y timoedd bechgyn iau a merched hŷn yn ail a’r tîm merched iau yn drydydd. Yn y gystadleuaeth unigol i’r bechgyn hŷn roedd Iwan Mepham yn 1af, Rhidian Mepham yn 2ail ac Emyr Byrne yn 3ydd. Roedd Ffion Byrne hefyd yn drydydd yn y gystadleuaeth unigol i ferched hŷn. Yn dilyn y gystadleuaeth mae Megan McIntyre, Rhys Beynon, Joseff Williams, Ffion Byrne, George Connelly, Emyr Byrne, Rhidian Mepham ac Iwan Mepham i gyd wedi ennill eu lle ar dîm Caerdydd a’r Fro a fydd yn mynd ymlaen i’r Gystadleuaeth Genedlaethol.