BTEC Lefel 2 Tystysgrif Estynedig
Bwrdd Arholi: EDEXCEL
Am drochi’ch dwylo?
Gallwn gynnig cyfle cyffrous i chi ddatblygu sgiliau llaw a thechnegau cynnal a chadw sylfaenol yn y diwydiannau mecanyddol a thrydanol.
Mae’r cwrs yn cynnwys gweithgareddau ymarferol mewn gwethdai pwrpasol, gydag offer diwydiannol.
Bydd y gweithgareddau yn y gweithdai yn cynnwys:- Gweithio gydag offer llaw
- Cynhyrchu cydrannau
- Defnyddio defnyddiau gwahanol
- Adeiladu a phrofi cylchedau golau trydanol
- Adeiladu a phrofi cylchedau pwer trydanol
- Adeiladu a phrofi cylchedau sylfaenol electronig
- Defnyddio efelychiad cyfrifiadurol
Mae’r sgiliau a ddatblygir gan ddysgwyr yn ystod y cwrs yn berthnasol i bob llwybr dilyniant ac agweddau galwedigaethol o fewn Plymio, Gosod Trydanol a Pheirianneg. Mae’r cymhwyster yn chwarae rhan bwysig er mwyn dilyn nifer o gyrsiau ôl 16, gan gynnwys y Diploma Cyntaf a Thystysgrif Cenedlaethol Peirianneg a nifer o gyrsiau plymio.
Mae’r cwrs yn digwydd yn y gweithdy yn bennaf. Felly oherwydd
rhesymau diogelwch mae angen dillaid amddiffynnol – gan gynnwys esgidiau diogelwch (steel toe cap) ac oferôls.
Cost tua £40
Teitl y Cwrs: BTEC Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Peirianneg.
Bydd y cwrs yn digwydd un prynhawn pob wythnos.
Bydd pob disgybl sydd yn astudio cwrs yng Ngholeg y Barri hefyd yn astudio BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol.