Cynhaliwyd Cyngerdd Nadolig yn yr ysgol ar ddydd Llun 28ain o Dachwedd. Trefnwyd y noson gan ddwy aelod o’r chweched dosbarth fel rhan o’u prosiect Busnes. Roedd y neuadd yn orlawn gyda’r gynulleidfa yn mwynhau perfformiadau gan gerddorfa’r ysgol, corau Iau a Hŷn, cyflwyniadau dramatig Iau a Hŷn ac unawdau a deuawdau. Roedd y noson yn llwyddiant mawr, diolch i’r adrannau Cerdd a Drama am baratoi arlwy mor raenus. Rhoddwyd cyfraniad o’r elw tuag at elusen Clic Sargent – elusen cancr plant.