Manylion Tasg 1
Briff: Mae reis a phasta'n dod yn fwyfwy poblogaidd ar fwydlenni bwytai fel dewis yn lle tatws.
Gan ddefnyddio pasta a reis, cynhyrchu a gweini pedair saig liwgar a diddorol y gallai cogydd eu cynnwys ar fwydlen ty bwyta.
Cynllun Marcio (20%) 40 marc (15 awr)
(a) Cynllunio'r dasg.
(b) Cyflawni'r dasg.
(c) Gwerthuso'r dasg.
(a) Cynllunio'r dasg: (10 marc)
Er mwyn ennill marciau uchel yn y rhan hon, mae angen i ymgeiswyr ddangos eu bod nhw wedi ymchwilio i’r nwyddau dethol er mwyn iddynt allu gwneud dewis seigiau deallus i baratoi ar gyfer yr ymarferol.
Dylai’r fframwaith canlynol helpu wrth gyflawni’r ymchwiliad
Dyma’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyflawni’r ymchwiliad:
Rhaid i’r ymgeiswyr ddewis detholiad o seigiau a fydd yn adlewyrchu nid yn unig y nwyddau ond hefyd eu sgìl fel cogydd. Cofiwch ddefnyddio’r rhestr wirio yn y rhan ‘sgiliau paratoi bwyd’ i sicrhau y caiff sgiliau lefel uchel eu cynnwys.
Ffordd dda o wneud hyn yw rhestru’r seigiau a ddewiswyd a nodi pa sgiliau a dulliau coginio a gaiff eu dangos e.e.
-
macaroni caws – gwneud saws, coginio pasta, berwi, gridyllu (ar ôl gorchuddio mewn caws a briwsion bara)
-
gateau mefus – dull chwisgo, sgiliau addurno, pobi
Paratoi cynllun ysgrifenedig i ddangos:
(b) Cyflawni'r dasg: (20 marc)
-
Bydd ymgeiswyr yn cyflawni'r dasg gan ddefnyddio gwybodaeth am a dealltwriaeth o iechyd, hylendid a diogelwch wrth baratoi, cynhyrchu a gweini seigiau.
-
Dylai ymgeiswyr ddangos defnydd o'r sgiliau canlynol:
Er mwyn ennill y marciau uchaf yn y rhan hon mae angen i ymgeiswyr ddangos:
-
Safonau uchel o hylendid personol e.e. gwisgo ffedog/ dillad gwyn, gwallt wedi clymu’n ôl, dim lliw ar yr ewinedd, dim gemwaith ayb.
-
Arferion hylendid personol da e.e. dim llyfu bysedd, blasu gyda llwy de lân ayb.
-
Defnydd diogel o gyfarpar, yn enwedig cyllyll, sosbenni ac offer trydanol
-
Dewis yr offer cywir e.e. y gyllell gywir ar gyfer torri, pilio ayb.
-
Defnydd o amrywiaeth eang o nwyddau yn y dasg a ddewiswyd e.e. nid seigiau caws i gyd ar gyfer cynnyrch llaeth.
-
Hylendid bwyd da e.e. cadw bwydydd darfodus yn yr oergell a pheidio â’u gadael ar y bwrdd, defnyddio profwyr tymheredd i sicrhau bod y bwyd wedi’i goginio (os oes ar gael)
-
Ardaloedd gwaith taclus, trefnus
-
Defnydd diogel o’r popty
-
Gweithio i amser
-
Gweithio’n annibynnol
-
Sgiliau technegol da
-
Ychydig wastraff bwyd
-
Dilyniant rhesymegol i’r gwaith e.e. mae angen gwneud bwyd y mae angen ei goginio am amser hir, ei setio, neu ei weini’n oer yn gyntaf
-
Amrywiaeth eang o sgiliau
-
Safon uchel y cyflwyniad terfynol e.e. rheoli cyfrannau, defnyddio garnais ac addurn, lliw da, tymheredd cywir, ansawdd cywir, blas da, dysglau gweini priodol
(c) Gwerthuso'r dasg (10 marc)
Er mwyn cael y marciau uchaf yn y rhan hon, mae angen i ymgeiswyr drafod
-
Addasrwydd y seigiau a ddewiswyd – a adlewyrchodd y seigiau’r defnydd o’r nwydd yn y diwydiant – pam neu pam ddim?
-
Unrhyw newidiadau fyddent yn ei wneud i’r dewis seigiau a pham
-
Rheoli amser
-
Sut byddai cwsmeriaid (defnyddwyr) yn ystyried y seigiau o ran ymddangosiad, blas ac ansawdd?
-
Pa welliannau fyddent yn eu gwneud pe byddent yn ail-wneud y dasg a pham?
-
Maint a chost fesul cyfran (gweler y rhan rheoli a phrisio cyfrannau)
*Rhaid i'r gwaith ysgrifenedig cefnogol beidio â bod yn fwy na phedair tudalen o A4 neu'r hyn sy'n cyfateb. Ni roddir marciau am gyflwyniad.