Blwyddyn 10
Ym Ml.10 mae cyrsiau TGAU yn astudio’r un testunau.
Elfennau Bioleg yn y cwrs:
- amrywiaeth bywyd, addasiad a chystadleuaeth
- monitro'r amgylchedd, llif egni a throsglwyddo maetholion
- etifeddiad
- amrywiad
- esblygiad
- ymateb a rheoli
- iechyd
Elfennau Cemeg yn y cwrs:
- elfennau a’r Tabl Cyfnodol
- cyfansoddion
- metelau
- anfetelau
- adweithiau asidau
- cynhyrchu a defnyddio tanwyddau a phlastigion
- y ddaear sy'n newid yn barhaus
Elfennau Ffiseg yn y cwrs:
- cynhyrchu trydan
- trawsyrru trydan
- cyflenwi egni a'r cartref
- trosglwyddo egni
- nodweddion tonnau
- pelydriad sy'n ioneiddio
- cysawd yr haul a'i le mewn bydysawd sy'n esblygu
Blwyddyn 11
Ym Ml.11 mae’r cyrsiau’n amrywio ond gweler yr elfennau cyffredin isod:
Elfennau Bioleg yn y cwrs:
- celloedd a phrosesau celloedd
- mae sylweddau yn dod i mewn i gelloedd ac yn gadael trwy'r gellbilen
- ffotosynthesis
- resbiradaeth
- treuliad
- y system resbiradol
- bioamrywiaeth a'r amgylchedd
Elfennau Cemeg yn y cwrs:
- adeiledd yr atomig a'r Tabl Cyfnodol
- adweithiau metelau alcaliaidd a halogenau
- bondio cemegol, adeiledd a phriodweddau
- cyfradd newid cemegol
- cemeg organig sylfaenol
- cyfrifiadau cemegol
- dwr
Elfennau Ffiseg yn y cwrs:
- cylchedau trydanol syml
- pellter, buanedd a chyflymiad
- effaith grymoedd
- rhyngweithiadau rhwng gwrthrychau
- hanner oes defnyddiau ymbelydrol a natur ymbelydredd niwclear
- adeiledd niwclear, ymholltiad ac ymasiad
Ym Ml. 11 yn ychwanegol i’r cwrs Gwyddoniaeth Ychwanegol mae’r Gwyddorau ar wahân hefyd yn astudio:
Bioleg
- planhigion, dwr a maetholion
- gwaed a chylchrediad
- y system nerfol
- swyddogaeth yr aren mewn homoeostasis
- micro-organebau a chlefydau
- micro-organebau a'u cymwysiadau
Cemeg
- cemeg organig ychwanegol
- adweithiau cildroadwy, prosesau diwydiannol c chemegau pwysig
- cyfrifiadau titradiad a molau
- calchfaen
- dadansoddiad cemegol
Ffiseg
- electromagneteg, tonnau, damcaniaeth ginetig, niwcliosynthesis
- priodweddau tonnau a sut maent yn cael eu defnyddio i ymchwilio i adeiledd y ddaear
- mudiant
- damcaniaeth ginetig
- tarddiad yr elfennau cemegol
Sut mae TGAU yn cael ei asesu?
Mae pob arholiad allanol ar gael mewn dwy haen: Haen Sylfaenol (sy’n cwmpasu graddau “C” i “G”) a Haen Uwch (sy’n cwmpasu graddau “A*” i “D”). Mae’r asesiadau o dan reolaeth (ymarferol) yr un haen i bawb. Mae marc da gyda’r asesiadau ymarferol yn caniatâu i ddisgyblion sy’n sefyll Haen Sylfaenol ennill gradd “B” ar yr amod bod eu perfformiadau yn y papur ysgrifenedig yn dda.
* mae pob arholiad ysgrifenedig yn 45 munud o hyd. Mae’r elfen arholiad ysgrifenedig yn werth 75% y radd derfynol. Mae tasgau ymarferol yn werth 25% y radd derfynol.