Tom Blumberg yn YGBM

Pleser oedd croesawu Tom Blumberg un o ddisgyblion cyntaf yr ysgol yn ôl i’n plith yn ddiweddar. Mae Tom wedi dilyn cwrs mewn coleg drama yn Llundain ac erbyn hyn mae’n actio ar raglen Rownd a Rownd ar S4C. Roedd yn gyfle arbennig i’r disgyblion o flwyddyn 7, 8 a 9 glywed mwy am ei yrfa fel actor, ei gyfnod cynnar yn yr Ysgol a phwysigrwydd y Gymraeg iddo.