Trin Gwalt a Phrydferthwch

BTEC Lefel 1 Tystysgrif Estynedig 

Bwrdd Arholi: EDEXCEL

Ydych chi’n dyheu am ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant Trin Gwallt a Phrydferthwch?

Mae Coleg y Barri yn ddarparwr hyfforddiant blaenllaw ar gyfer y diwydiant Trin Gwallt a phrydferthwch yn Ne Cymru.
Dysgir y cyrsiau ran amlaf yn ein salon Trin Gwallt, Prydferthwch Cyfannol newydd sbon - `Academi @ Barry College’.  Cydnabyddir bod y salon gyda’r gorau yn y wlad – gyda  L’Oreal a Goldwell yn gwneud defnydd ohono ar gyfer eu cyrsiau hyfforddi eu hunain.

Mae’r cwrs yn cynnwys elfennau ymarferol a  theori therapi trin gwallt a phrydferthwch. Rhoddir cyfle i ddysgwyr gasglu portffolio o waith ysgrifenedig ac ymarferol.

Bydd cyfle gennych i ymarfer yr agweddau canlynol:
  • Technegau Ymgynghori
  • Chwyth-sychu
  • Plethu
  • Gofal Ewinedd
  • Gofal Croen
  • Colur
  • Colur Theatraidd
  • Iechyd a Gofal
Disgwylir i’r dysgwyr ymarfer y technegau ar aelodau eraill o’r dosbarth.

Dylunir y cwrs yma ar gyfer pobl sydd yn dymuno gael mewnwelediad o’r proffesiwn trin gwallt a phrydferthwch, neu gam cadarn i astudiaethau pellach o fewn y diwydiant Trin Gwallt a Phrydferthwch.

O ganlyniad i natur ymarferol  y cwrs, disgwylir i’r dysgwyr brynu offer personol gan gynnwys:

Citiau Trin Gwallt a Phrydferthwch       Cost tua  £170
Gwerslyfr                                                Cost tua  £15

Teitl y Cwrs: BTEC Tystysgrif Estynedig Lefel 1: Cyflwyniad i Drin Gwallt a Phryferthwch.

Bydd y cwrs yn digwydd un prynhawn pob wythnos.

Bydd pob disgybl sydd yn astudio cwrs yng Ngholeg y Barri hefyd yn astudio BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol.